Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Gofynnwyd am ganiatâd ar 14 Medi 2023 gan yr Arglwydd Benyon, y Gweinidog Bioddiogelwch, a Materion Morol a Gwledig i wneud offeryn statudol dan y teitl Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) 2024. Mae Rheoliadau 2024 yn gymwys mewn perthynas â Phrydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Bydd Rheoliadau 2024 yn cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 36(1)(a)a 51(1)(a) o Ddeddf Pysgodfeydd 2020.
Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i gyfraith ganlynol yr UE a ddargedwir:
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1936/2001 sy'n pennu mesurau rheoli sy'n gymwys i bysgota am stociau penodol o bysgod mudol iawn.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1984/2003 sy'n cyflwyno system ar gyfer monitro masnach pysgod cleddyf a thiwna llygad mawr o fewn y Gymuned.
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2015/98 ar weithredu rhwymedigaethau rhyngwladol yr Undeb dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd a'r Confensiwn ar Gydweithredu Amlochrog ym Mhysgodfeydd Gogledd-orllewin Iwerydd yn y dyfodol.
Rheoliad (EU) 2016/1627 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynllun adfer amlflwydd ar gyfer tiwna asgell las yn Nwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir.
Rheoliad (UE) Rhif 2019/1154 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynllun adfer amlfwydd ar gyfer pysgod cleddyf Môr y Canoldir
Rheoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol
Yn ogystal â diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir, mae'r offeryn hwn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Dyframaethu (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2019.
Rhoddwyd caniatâd gan fod y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd (y Confensiwn). Mae rhai o'r darpariaethau'n diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir lle nad oedd deddfwriaeth wreiddiol yr UE wedi'i diweddaru cyn diwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu i adlewyrchu rhwymedigaethau newydd ar gontractio partïon i'r Confensiwn. Mae rhai o'r darpariaethau'n diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gyfredol ar ddiwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu i adlewyrchu'r rhwymedigaethau newydd sydd wedi'u mabwysiadu o dan y Confensiwn ers i'r DU adael yr UE ac ymuno â'r Confensiwn fel parti contractio annibynnol. Er mwyn iddynt fod yn effeithiol, ystyrir iddynt fod yn gymwys ar sail y DU ac i bob llong sy'n gweithredu yn nyfroedd y DU neu ble bynnag y bônt.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 12 Rhagfyr 2023 a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024.